P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Welsh Anti Nuclear Alliance, ar ôl casglu 1,028 o lofnodion ar-lein a 288 o lofnodion ar bapur, cyfanswm o 1,316 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd, i leihau'r angen am danwydd ffosil ac ynni niwclear yng Nghymru. Yn fwy penodol:
· I gefnogi technolegau carbon isel sy'n dod i'r amlwg a allai roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni adnewyddadwy, a helpu i arafu newid yn yr hinsawdd; a
· Buddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt yn gadael gwaddol o wastraff ymbelydrol, tyllau sbwriel a niwed i iechyd a'r amgylchedd.
Rydym yn cymeradwyo sefydlu "Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015", gan ei bod yn rhoi cyfle enfawr i wneud
newidiadau cadarnhaol a pharhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol
a'r dyfodol, yn enwedig o ran ynni glân.
Cytunwn â'r Datganiad Ynni gan Lesley Griffiths ar 6/12/2016
pan ddywedodd fod gan y Cynulliad dair blaenoriaeth. Yn gyntaf,
byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail,
byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd
ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i
reoli’r broses o newid i economi carbon isel. Dylid cynnwys
gostyngiad o ran niwclear hefyd, fodd bynnag, gan nad yw'n ddewis
adnewyddadwy na charbon isel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae
gorsafoedd ynni niwclear yn dibynnu ar wraniwm i weithredu, ac mae
cryn dipyn o garbon yn cael ei ryddhau wrth gloddio, malu a
gwahanu'r wraniwm o'r mwyn, ac yna mae'n rhaid ei gludo.
Mae’r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer wraniwm yn nodi y bydd
y cronfeydd wrth gefn yn para am 50 - 70 mlynedd a pho uchaf y
bo’r galw, po fwyaf o fwynau y bydd yn rhaid eu prosesu. Bydd
hyn yn arwain at gydbwysedd CO2 ar gyfer ynni atomig sy'n gwaethygu
fwyfwy dros amser (JW Storm van Leeuwen a P. Smith, 'Nuclear Power:
The Energy Balance', www.stormsmith.nl.)
"Ni ellir adnewyddu ynni niwclear a byddai wraniwm y Ddaear yn
diflannu yn y pen draw, sy’n golygu ein bod, yn wir, yn
amddifadu cenedlaethau’r dyfodol rhag ei ddefnyddio mewn
ffyrdd newydd a llai niweidiol yn y dyfodol." (Sophie Howe -
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2018 wrth gefnogi
Morlyn Llanw Abertawe)
"Mae honiadau bod ynni niwclear yn ffynhonnell ynni 'carbon isel'
yn cael eu chwalu pan greffir ar y ffeithiau. Ymhell o’r
canlyniad o chwe gram o CO2 fesul uned drydan ar gyfer Hinkley C,
fel y cred Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU, mae'n debyg bod y
gwir ffigur yn fwy na 50 gram – sy’n torri'r terfyn a
argymhellir gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd o ran ffynonellau
newydd ar gyfer cynhyrchu ynni y tu hwnt i 2030." (Yr Athro Keith
Barnham
https://theecologist.org/2015/feb/05/false-solution-nuclear-power-not-low-carbon).
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Brycheiniog a Sir Faesyfed
· Canolbarth a Gorllewin Cymru